Calendr

Gweithgareddau 2011-2012

 


 

DATHLIAD ARBENNIG YN 2011

 

10 Rhagfyr 2011 - Bore Sadwrn 11 - hanner dydd

GWYL Y LLYW OLAF

Awr o ddathlu gwladgarol Cymreig

Paned ar y diwedd        Croeso cynnes i bawb

    

 


 

2012

Cylch Trafod Llyfrau ar drydedd nos Fawrth y mis am 7 o'r gloch yn Yr Ysgoldy gan ddechrau ar:

17 Ionawr 2012 

Y llyfr cyntaf a drafodir fydd Gwen Tomos (Daniel Owen)

Trafodir y rhestr lyfrau yn y cyfarfodydd.

Ni fydd pwys ar neb i agor y mater na chyfrannu os nad ydynt yn dymuno. Gofynnir i bawb sydd â diddordeb gysylltu â ni er mwyn inni gael syniad beth fydd yr ymateb. (01286 660 853/655 neu hanes@uwchgwyrfai.com)

Croeso cynnes i bawb

 

Cynhelir y cyfarfodydd canlynol ar nos Fercher olaf y mis gan ddechrau am 7 o'r gloch.              Croeso cynnes i bawb.

 

29 Chwefror - Brwydr y Teulu Beasley

(Ar achlysur hanner canmlwyddiant darlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith)

Y siaradwyr:   Delyth Prys a Cynog Prys (merch ac ˆwyr Eileen a Trefor Beasley).    Tâl mynediad £1

28 Mawrth - Noson Lawen (yr hen ffilm Gymraeg enwog)

Y Siaradwyr: Wil Aaron a Meredydd Evans   Tâl mynediad £1

25 Ebrill - Panterliwt

Noson o ddychan ar bwnc llosg cyfoes, dan ofal Geraint Jones a chyfeillion y Ganolfan.

Tâl mynediad £1

 

DARLITH FLYNYDDOL UTGORN CYMRU 2012, Nos Fercher 16 Mai, 2012) 

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1962 - Emyr Llywelyn

ar achlysur hanner canmlwyddiant sefydlu'r Gymdeithas. Tâl mynediad £3

Bydd cryno-ddisg o ddarlith flynyddol 2011 ar werth:  "Ma'r Hogia'n y Jêl" - Peredur Lynch.

 

ARDDANGOSFA HAF 2012

Cludiant yn Uwchgwyrfai

a hamddena yng Ngardd Uwchgwyrfai ar yr un pryd.

Agorir ar brynhawniau Mercher a Sadwrn, 1.30 - 4 o'r gloch (hyd at 4.30 o'r gloch ar y dyddiau hyn adeg Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri) (ond hefyd ar brynhawniau eraill neu gyda'r nosau trwy drefniant ymlaen llaw).

 


 

 

30 Tachwedd - Carneddog (1861 - 1947)

Y siaradwr:   Bleddyn Owen Huws        Tâl mynediad £1

 

26 Hydref 2011 – Enwau Lleoedd yr Ardal

Y siaradwraig:  Dr Glenda Carr    Tâl mynediad: £1.

 

28 Medi 2011 Cyflwyno Bro: Dyffryn Ogwen

Dr J. Elwyn Hughes  - sgwrs a lluniau.

Y gyntaf o gyfres flynyddol yn rhoi darlun cyflawn o fro arbennig.     Tâl mynediad:  £1

 

 

16 Medi 2011 - Nos Wener am 7 o'r gloch

OWAIN GLYNDWR: ARWR CYMRU

Y Siaradwraig:  Nia Watkin Powell, Adran Hanes Prifysgol Bangor.

 

   

 

8 MEHEFIN 2011     D A R L I T H   F L Y N Y D D O L   U T G O R N   C Y M R U

Yr Athro Peredur Lynch 'Ma'r Hogia'n y Jêl': yr ymateb i Losgi'r Ysgol Fomio

Traddodir y Ddarlith Flynyddol eleni gan Yr Athro Peredur Lynch o Adran y Gymraeg,

Prifysgol Bangor.

A hithau'n dri chwarter canrif ers y weithred arwrol o losgi'r ysgol fomio, priodol iawn yw

cael darlith a fydd yn edrych ar yr ymateb yng Nghymru'r cyfnod i'r Tân yn Llÿn.

Bydd cryno-ddisg o ddarlith flynyddol y llynedd: Abergarthcelyn gan Y Prifardd Ieuan Wyn,

ar werth ar y noson am £5.

Mynediad £3          

 

 

 

27 Ebrill 2011– R.S. Thomas – Gwladgarwr

 

Cyfarfod amrywiol, yng ngofal Geraint Jones, Gareth Williams (Gareth Neigwl), Morgan Jones, Robyn Lewis ac Alwyn Pritchard, yn ymdrin ag R.S. Thomas, y gwladgarwr tanbaid a digyfaddawd. Ffilmiau unigryw o anerchiadau dadleuol ac ymfflamychol y bardd ym Mhenyberth 1986 ac yn Eisteddfod Bro Madog 1987. 

Noson hwyliog a gwladgarol.    

 

 

 

30 Mawrth 2011- Meddyginiaethau Gwerin

 

yng nghwmni Anne Elizabeth Williams a Bethan Wyn Jones.

Bydd y Anne Elizabeth Williams yn rhoi sgwrs gyffredinol am y meddyginiaethau gwerin y bu'n eu casglu ar ran Amgueddfa Werin Cymru tra bydd Bethan Wyn Jones, y ddarlledwraig ac awdur y gyfres Doctor Dail, yn canolbwyntio ar lysiau meddyginiaethol.     Ni chodir tâl mynediad.

 

 

23 Chwefror 2011 – Hen Ffilm  – Llythyr o Gymru

 

Noson arall o ymdrin â byd y ffilm yng ngofal Wil Aaron.  "Llythyr o Gymru" oedd y ffilm a ddangoswyd ganddo, sef ffilm chwarter awr a ddangosid mewn darlundai ar hyd a lled y wlad yn y 1950au i gyd-fynd â'r brif ffilm. Plentyn ysgol yn ysgrifennu llythyr i Awstralia oedd y testun a chafwyd portread o'i fywyd yn yr ysgol, gartref ac ymweliad â Phorthdinllaen. Plant ysgol Llandwrog oedd yn cymryd rhan a'r prif gymeriad yn y ffilm oedd Evie Wyn Jones. Awdur y sgript oedd Dr John Gwilym Jones.

Cafwyd cyfle hefyd i weld awdur y sgript, Dr John Gwilym Jones, yn egluro'r cefndir ar raglen a gynhyrchwyd gan Wil Aaron yn y gyfres boblogaidd Almanac. Yn ychwanegol at hyn cafwyd cydgyflwyniad gan Wil Aaron ac Evie Wyn Jones.

 

 

24 Tachwedd 2010 – Hen Gantorion Dyffryn Nantlle

 

Noson pryd y cyflwynir cryno ddisg newydd yn cynnwys gwledd o ganeuon amrywiol gan rai o hen gantorion Dyffryn Nantlle. Bydd y noson yng ngofal Ifan Glyn Jones a Geraint Jones, sydd wedi casglu’r deunydd a'i olygu.

 

 

27 Hydref 2010 – Hel Achau Ardaloedd

Sgwrs gan yr awdures a’r ddarlledwraig, Hafina Clwyd, ar bwnc sy’n dod yn gynyddol boblogaidd y dyddiau hyn. Byddwn hefyd yn cyhoeddi, yn berthnasol i'r testun, lyfr gan Marian Elias Roberts ar hanes Teulu Tan-y-clawdd a'i achau a'r hen gymdeithas ddirodres Gymraeg a oedd, hyn yn gymharol ddiweddar fel yr eithin yn aur ar hen gloddiau Capel Uchaf, Clynnog.  (£4)

 

 

29 Medi 2010 – Triawd y Coleg

Cyfle i wrando ar Cledwyn Jones, un o’r Triawd, yn rhoi sgwrs ar y triawd hynod boblogaidd hwn ac ymdrin â rhai o’u caneuon. Bydd cyfle i wrando ar rai o’r caneuon yn ogystal. Byddwn hefyd yn cyhoeddi llyfr gan Aelwen Roberts ar hanes Mary King Sarah, y gantores enwog o Ddyffryn Nantlle.   (£5).

 


 

ARDDANGOSFA FFORDD Y PERERINION – Clynnog Fawr i Enlli

 

 Yn Ysgoldy Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog cynhelir arddangosfa

 hynod ddiddorol yr haf yma ar Ffordd y   Pererinion o Glynnog Fawr i Enlli. Bydd

 yn ymdrin â llawer o wahanol themâu. Yn ogystal â’r eglwysi diddorol ar y ffordd,

 rhoddir sylw i henebion, ffynhonnau a’u rhinweddau meddyginiaethol, rhai tai nodedig

  a mannau o ddiddordeb neilltuol ar yr arfordir. Cyflwynir y cyfan fesul ardal drwy

 gyfrwng gwybodaeth ddifyr a lluniau trawiadol [yn cynnwys rhai gwych wedi eu tynnu

o'r awyr]. Yn ogystal bydd cyfle i weld ffilm ¼ awr o safon broffesiynol sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa.

 

Bydd yr arddangosfa’n agored i’r cyhoedd hyd at 28 Gorffennaf  ar brynhawniau Mercher a Sadwrn

o 1.30 – 4.00 pm ac ar adegau eraill i grwpiau drwy drefniant ymlaen llaw.

 

Oherwydd ei phoblogrwydd ailagorir yr Arddangosfa hon ym mis Medi 2010 – eto ar

brynhawniau Mercher a Sadwrn ac i grwpiau drwy drefniant ymlaen llaw.

 

Pris mynediad fydd £2 – yn cynnwys mynediad i ardd y Ganolfan y bu Gerallt Pennant mor hael

ei ganmoliaeth iddi ar ei raglen radio Galwad Cynnar a’r rhaglen deledu Wedi Saith y darlledwyd

rhan ohoni yn fyw ganddo o’r ardd a’r Ganolfan hon ar yr 28ain o Fehefin 2010. 

 

( 01286 660 853/655

 

Croeso cynnes

Derbyniwyd nawdd tuag at y ffilm a'r arddangosfa hon o Gronfa Datblygu Cynaladwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ll^yn

a Llwybr yr Arfordir.

 


26 Mai 2010

 

Abergarthcelyn y Tywysogion: Darlith Flynyddol Utgorn Cymru gan

Y Prifardd Ieuan Wyn ar hanes Tywysogion Cymru ac yn arbennig hanes Garthcelyn - Llys y Tywysogion yn Abergwyngregyn - a Llan-faes dros y Fenai. Bydd y ddarlith hon yn agoriad llygad ar y cyfnod hwnnw ac yn datgelu rhai ffeithiau newydd inni.

Tâl mynediad:  £3.

Ar ddiwedd y ddarlith bydd cyfle i brynu cryno ddisg o ddarlith y llynedd: Eos Morlais, Tenor Cymru gan Hywel Teifi Edwards.


Nos Fercher

yr 28ain o Ebrill 2010

 

Darlith:

Mae ddoe wedi mynd

gan Emlyn Richards, darlithydd poblogaidd, un o bennaf pregethwyr y pulpud Cymreig a chyfaill da i'r Ganolfan hon.       

Yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr,

am 7 o’r gloch.Ni chodir tâl mynediad. Paned ar y dechrau.

 

 


 

Y Traddodiad Plygain:

Nos Fercher, y 31ain o Fawrth 2010

Am 7 o'r gloch. Paned ar y dechrau. Ni chodir tâl mynediad.  Croeso cynnes i bawb.

Cyfle i fwynhau gwrando ar y gwyddonydd a’r cerddor

Dr Goronwy Wynne yn ymdrin â gwahanol agweddau ar draddodiad plygain cyfoethog Cymru.

 

 

 


 

Noson yng Nghwmni Sian Teifi

Mary, Sali a Fi - Hanes Sali Mali o'r cychwyn

Nos Fercher, y 24ain o Chwefror 2010

Am 7 o'r gloch.    Paned ar y dechrau.     Ni chodir tal mynediad.  Dewch yn llu.

Fel awdures ac adroddwraig a enillodd wobr Llwyd o'r Bryn ragor nag unwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr adwaenwn Sian Teifi. Mae hi hefyd yn gynhyrchydd teledu ac ar hyn o bryd mae hi'n ysgrifennu ac yn cynhyrchu'r gyfres ddrama ar gyfer plant meithrin, "Cei Bach".  Dyma'r llun diweddaraf ohoni efo un o brif gymeriadau'r gyfres.

Anelir y sgwrs at oedolion a bydd yn cynnwys pytiau o ffilm.

Yn glo i'r noson cyhoeddir Ellyll Hyll a Ballu (£5), gan Mary Hughes a cheir gair gan Anwen Roberts, Prifysgol Bangor.

 


Arddangosfa hen luniau a hen ffilmiau o Ddyffryn Nantlle

yn Neuadd Goffa Pen-y-groes

Dydd Sul y 6ed o Ragfyr 2009

11 o'r gloch y bore - 5 o'r gloch yr hwyr

Dangosir y ffilmiau am 1.30 a 3.30

(i barhau am awr ar y tro)

Trefnir gan Gylch Meithrin Pen-y-groes

mewn cydweithrediad â Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai


Dau Frawd

Nos Fercher, y 25ain o Dachwedd 2009

yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai

Am 7 o’r gloch

Cyfle i glywed Wil Aaron, cynhyrchydd y gyfres boblogaidd Almanac,

yn sôn yn arbennig am y rhaglen ar y ddau frawd hynod o'r Galltraeth yn Ll^yn.

Cawsant ffrae mor ddifrifol nes treulio blynyddoedd heb dorri yr un gair â’i gilydd,

er eu bod yn byw yn yr un ty ac yn addoli yn yr un capel.

Am gyfnod hwy oedd yr unig aelodau – Griffith Jones yn y sêt fawr a Watkin Jones

yn y sêt gefn, ond âi’r gwasanaeth rhagddo yn union fel pe bai’r capel yn llawn.          

Fe’i hystyrir yn glasur o ffilm.

Ysgrifennwyd y sgript gan W.S. Jones.

Dangosir y ffilm ar ôl y sgwrs.
Paned ar y dechrau
Mynediad am ddim
Dewch yn llu

 


Fe'ch gwahoddir yn gynnes gan Y Lolfa

i noson cyhoeddi Hunangofiant Malcolm Allen

am 7.30 Nos Wener, yr 20fed o Dachwedd 2009

yng Nghlwb Pel-droed Caernarfon

Ysgrifennwyd yr Hunangofiant gan Geraint Jones.

Aiff holl elw gwerthiant y Noson i goffrau

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Croeso i bawb.


Epil Gwiberod yr Iwnion Jac

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr

Nos Fercher, yr 21ain o Hydref 2009 am 7 o’r gloch

Noson cyhoeddi’r gyfrol

Epil Gwiberod

yr Iwnion Jac

gan Geraint Jones

sef casgliad o dros 50 o ysgrifau’r golofn boblogaidd

Sêt y Gornel,

a ymddangosodd yn Y Cymro yn ystod 2005/6


Mynediad am ddim.

Paned ar y dechrau a’r llyfr ar werth.

Yn ystod y cyfarfod ceir cyflwyniad crafog gan ran rai o aelodau’r Ganolfan Hanes:  GWIBEROD WINDSOR.


 Cyhoeddir gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.
         Pr
is y llyfr: £8.95    

   
Cyflwynydd y llyfr:   Y Prifardd Ieuan Wyn

Llywyddir gan Geraint Lloyd Owen

 

Croeso cynnes i bawb


Canu'r Cymry, y 30ain o Fedi 2009

Noson amrywiol o ymdrin â’r traddodiad canu gwerin yng Nghymrugydag Arfon Gwilym a Sioned Webb.

Yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, am 7 o’r gloch.

Mynediad am ddim. Paned ar y

dechrau.

O'r chwith:  Elfed Roberts,

Sioned Webb, Geraint Jones ac Arfon Gwilym.

 

 

 


Taith Gerdded, Sadwrn, y 5ed o Fedi 2009

gyda Lea Hughes, Swyddog Prosiect yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cynnull ger Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am 10.30

Troi i'r dde yn Llwyn-y-Ne

Dilyn Llwybr Cae'r Bont

I fyny Lôn Pant a heibio Cilyllidiart

I fyny Ffordd Ddrwg

Trwy fuarth Hafod-y-Wern

A dilyn Ffordd Hafod-y-rhiw a Bryngolau

Hyd at Warchodfa Tan-y-Bwlch

Yno bydd Rhydian Morris o'r Ymddiriedolaeth Natur, yn sôn am ei waith yn y Warchodfa.

Yna dychwelir i'r Ganolfan Hanes i gael paned o de a bara brith yn yr ardd.


Utgorn Cymru

Y Ddarlith Flynyddol

   Nos Iau y 18fed o Fehefin, 2009

   am 7 o'r gloch yr hwyr 

   Yr Athro

   Hywel Teifi Edwards

   Testun: EOS MORLAIS

   Mynediad £3

   Yn Ebeneser, Clynnog Fawr

Noddir ar y cyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai a'r Academi Gymreig.

Bydd CD o ddarlith 2008 ar werth ar y noson am £5 yr un: Yr Athro Hywel Teifi Edwards: Cymru a'i Harwyr


Cyflwyno"Ellyll Hyll a Ballu" gan Mary Hughes

Yn Ysgol Brynaerau, Rhagfyr 16 2008

yng nghwmni Ysgolion Carmel a'r Groeslon darllenodd Mary Hughes un o

chwedlauUwchgwyrfai sydd yn y llyfr.   Yr oedd yr arlunydd, Jasmine Hughes,

yno hefyd.

Llun:  o'r chwith:  Mary Hughes, Jasmine Hughes a Mr Garem Jackson, Ysgol Brynaerau

52 tudalen     A5

12 llun lliw     8 llun du a gwyn

Pris y llyfr: £5

Cyhoeddir gan Wasg yr Utgorn, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Yn ystod y cyfarfod cyflwynwyd hefyd:

Llyfr Lliwio i Blant gan Dafydd Jones

12 llun i'w lliwio

Trol a cheffyl

Pen'rallt Uchaf, Clynnog Fawr

Trol a mul

Diwrnod dyrnu

Siop yn Nhal-y-sarn

Amser chwarae yn Ysgol Pen-y-groes

Maen Dylan

Cromlech Bachwen

Chwarelwr yn hollti llechi

Gwerthu llefrith ym Mhen-y-groes

Capel

Eglwys Beuno Sant

£2      A4  12 tudalen      

   


Noson cyhoeddi "Teulu'r Post Llanwnda" gan Aelwen Roberts

Gwahoddiad gan Wasg yr Utgorn, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, i ddathlu cyhoeddi llyfryn sydd yn portreadu pedair cenhedlaeth yn hanes Swyddfa'r Post, Llanwnda a

gaewyd yn Nhachwedd 2008. Ceir cyflwyniad gan Aelwen Roberts a bydd aelodau ifainc o deulu'r Post yn cymryd rhan – dau ohonynt yn aelodau o Gor Glanaethwy - unawd ar y piano gan Miriam, carol gan y ddau frawd Ifan ac Emyr Jones a’u cyfyrder Dafydd Sion, yna unawd gan  Emyr i gyfeiliant Sian Wyn Gibson.  Bydd paned a mins pei i bawb ar y diwedd.

 

Gwahoddiad i bawb
i ddod i ddathlu cyhoeddi  

Nos Sadwrn, Rhagfyr 6, 2008
am 7 yr hwyrYng Nghanolfan Bro Llanwnda

Paned a mins pei   Mynediad am ddim

Cyhoeddir y llyfr gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai a bydd ar werth am £4.


Noson cyhoeddi "Am y Tywydd" gan Twm Elias

Nos Fawrth, Tachwedd 25, 2008 am 7 yr hwyr. Mynediad am ddim.

Gwahoddiad gan Wasg Carreg Gwalch i ddod drwy'r eira mawr a'r rhew

a niwloedd Tachwedd a sgrympiau Gwyl Grog i ddathlu cyhoeddi'r casgliad

swmpus hwn o ddywediadau difyr - testun sgyrsiau am genedlaethau!

Ceir cyflwyniad Powerpoint gan yr awdur a phaned a mins pei.

Pris y llyfr: £12 - ar werth gan y Ganolfan ar y noson.

 



Noson cyhoeddi "Gwr Hynod Uwchlaw'rffynnon" gan Geraint Jones

Nos Fercher, Tachwedd 5 2008, yn y Ganolfan Hanes am 7.30 o'r gloch

Mynediad am ddim

Dathlu cyhoeddi cyfrol hardd, llawn lluniau lliw, yn cyflwyno hanes Robert Hughes o Lanaelhaearn - porthmon, ffarmwr, bardd, pregethwr, darlithydd, achyddwr, areithiwr dirwest - ac arlunydd gwlad. Dyn hynod yn wir! Cynhwysir holl achau'r teulu lluosog.

Y noson hon dangosir dros drigain o ddarluniau Robert Hughes ar y sgrin fawr sydd yn y Ganolfan a cheir gair neu ddau gan yr awdur, Geraint Jones, am rai o'r cymeriadau hynod a'r golygfeydd "rhyfeddol".

Cyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch.  Pris y llyfr: £9.50 (£11.50 trwy'r post o'r cyfeiriad isod:)

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5BT


Emlyn a Harri

Byd y Baledi a Byd y Llofft Stabal

 

Cyflwyno cryno-ddisg newydd sbon (pris £5) yn Neuadd Sarn, nos Fercher, 29ain Hydref 2008 am 7.30 pm.   Mynediad, paned a llond gwlad o hwyl Cymreig AM DDIM!


 

Cryno ddisg, Rhif 1, Beirdd Bro

Gwahoddir chwi i gyfarfod arbennig iawn yn Nhafarn y Fic, Llithfaen,

Nos Wener nesaf, Medi 26ain, am 7.30 - 8 o’r gloch, pryd y gwelir lansio dau gyhoeddiad:

  • Bore Newydd: casgliad newydd o gerddi Myrddin ap Dafydd. Cyhoeddwyr: Gwasg Carreg Gwalch.
  • Cryno ddisg, Rhif 1, Beirdd Bro:  33 o gerddi Myrddin ap Dafydd yn cael eu darllen, gyda gair ogyflwyniad i bob cerdd, gan y bardd ei hun. Y rhyfeddod yw bod cymaint o amrywiaeth yn nhestunau a mesurau’r cerddi a bod y cynnwys yn gofiadwy ac ysbrydoledig ac mor hawdd gwrando arnynt.  Braint fawr yw eu cyhoeddi yng Ngwasg yr Utgorn, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.
  • Dewch i’r Fic, Llithfaen, i gael ymuno yn yr hwyl ac i weld a chlywed Myrddin ei hun yn darllen rhai ohonynt. 

 


 

Arddangosfa Hen Dai II

Ar brynhawniau Mercher a Sadwrn hyd at Hydref 18, 2008

Parhad yw hon o'n harddangosfa flaenorol (Mai/Mehefin) a bydd yn cynnwys peth

gwybodaeth a lluniau newydd hynod ddiddorol.

Agoriad llygad i'r cyfoeth sydd wrth ein traed.

Manylir ar blwyfi Llanaelhaearn, Clynnog, Llanllyfni, Llandwrog a Llanwnda.

 

Oriau Agor:   Mercher a Sadwrn 1.30 - 4 o'r gloch

Tâl Mynediad i'r Arddangosfa a'r Ardd Gymunedol Hanesyddol:     £2        Plant am ddim

Gellir trefnu ymweliadau ymlaen llaw i ysgolion a chymdeithasau a grwpiau
01286 660 853     ebost: hanes@uwchgwyrfai.com

 


Noson Cyhoeddi CD Cantorion Bro'r Eifl


NOS SUL,   MEHEFIN 29, 2008
7.30 o’r gloch yn yr Ysgoldy
, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai,Clynnog Fawr, Caernarfon.   
    01286 660 853 / 660 546 / 660 655
    ebost: hanes@uwchgwyrfai.com

Ceir gwrando ar yr holl gynnwys o’i gwr a cheir lluniau Power Point a sylwadau perthnasol ar y cantorion

a’r caneuon gan Geraint Jones.

Mae’r recordiadau fel ag y’u cafwyd (mwy neu lai).  Mae’n galondid eu bod bellach ar gof a chadw i bawb

fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl beth o’r glendid a fu a hynny yn y Gymru ryfedd hon sy’n gynyddol ddibris

o’i hetifeddiaeth a’i hen ddiwylliant gwâr.

Mynediad am ddim oherwydd y gwerthir y CD (pris £10) ar ddiwedd y cyfarfod.

Rhaid archebu tocyn ymlaen llaw gan mai lle i nifer cyfyngedig sydd yn yr Ysgoldy.


Cynnwys y CD:
                      

Y Cantorion

(yn nhrefn yr wyddor):

George Baum, Trefor
Tal Griffith, Llithfaen
Arthur Jones, Llanaelhaearn / Llanrug
Dafydd Morris Jones, Wernol, Chwilog
Elwyn Jones, Llanaelhaearn / Llanbedrog
Emlyn Jones, Llanaelhaearn / Morfa Nefyn
Jane Jones, Trefor / Pwllheli
William Jones (Wil Parsal), Trefor
Gwen Owen, Pencaenewydd
Ithel Parry, Y Ffôr
Bobi Roberts, Hafod, Llithfaen
H.E.Roberts (Tenorydd yr Eifl), Llithfaen
Evan R. Thomas, Llanaelhaearn / Y Ffôr
Lottie Thomas, Trefor / Y Ffôr
Mathias Williams, Trefor
Tom Williams, Llwyn Annas, Chwilog
William R. Williams (Llwyn), Pistyll 

Côr Glannau Erch (Tal Griffith)


Arddangosfa Hen Dai  Mai 17 - Mehefin 26, 2008

Agoriad llygad i'r cyfoeth sydd wrth ein traed.

Manylir ar blwyfi Llanaelhaearn, Clynnog, Llanllyfni, Llandwrog a Llanwnda. Ond nid oes rhaid dod o’r ardaloedd hynny i werthfawrogi’r hanes.

 

Oriau Agor:   Mercher a Sadwrn 1.30 - 4 o'r gloch

Tâl Mynediad i'r Arddangosfa a'r Ardd Gymunedol Hanesyddol:     £2        Plant am ddim

Mae’r wybodaeth yn hynod o ddiddorol, e.e.

Olrheinir hanes Plas Elerninon, Trefor am FIL O FLYNYDDOEDD a rhestrir y tenantiaid a’r perchnogion o'r flwyddyn 1377.

Ceir lluniau a hanes rhyfeddol dau hen, hen dy ym Mhen-y-groes.

Ceir hanes diddorol  Maenor Cwm. (Rhoddwyd trefgordd Cwm gan Lywelyn Fawr i fynaich Abaty Aberconwy drwy siarter ym 1198).

Ceir hanes tai a thyddynnod unigol.

Ceir lluniau tai’r Rheilffordd.

A llawer mwy.

Hefyd dangosir lluniau dyfrlliw o waith William Selwyn, Robert Williams (Pen-y-groes), Jasmine Hughes (Llandegfan) a Carol Hughes (Y Groeslon) a llun diweddar Karen Jones (Waun-fawr) mewn enamel a gwydr.


 

Tair Noson o Hen Ffilmiau

 

Yn yr Ysgoldy, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

 

Nos Lun, Nos Fawrth a Nos Fercher      Ebrill 23 – 25 2007

 

Dechreuir am 7.30 

Rhaglen o tua awr a hanner o hen ffilmiau, yn cynnwys:

Y Llygad Coch  (enw llechen Dyffryn Nantlle)   Ffilm wefreiddiol BBC Cymru o Ddyffryn Nantlle, yn 1967 yn dangos Chwarel Dorothea a rhai chwarelwyr – yn bennaf Evan John Jones.  Cymerir rhannau gan  T.H. Parry-Williams a  Thomas Parry, William Pleming (Goruchwyliwr Dorothea), Band Nantlle, chwarelwr ifanc yn Chwarel y Cilgwyn ayb.   Ysgrifennwyd y sgript gan Gruffudd Parry, y llefarydd oedd W.H. Roberts a’r cynhyrchydd oedd John Roberts Williams. Caewyd y Chwarel ymhen ychydig flynyddoedd wedyn.

Chwarel Penyrorsedd c. 1950 yn cynnwys llwytho'r "blondins" sef y gwifrau y cludid y llwythi arnynt dros y twll chwarel (enwyd ar ôl y Ffrancwr a groesodd y Niagara ar wifren dros 30 o weithiau.  "Gwylanod" yw'r enw yng Ngwaith Mawr Trefor)

Gwaith Mawr Trefor 1929 ac un arall 1959/60

Pysgota Mecryll ym mae Caernarfon 1959

A ffilmiau eraill

Pleser oedd croesawu Glenda Evans, Abergele, merch y diweddar Evan John Jones, y chwarelwr diwylliedig o Dal-ysarn, i'r cyfarfod hwn. Hefyd Alwyn a Helen Plemming, mab a merch William Plemming, y Goruchwyliwr a theulu'r diweddar Gruffudd Parry.

 


Arddangosfa Melin Faesog, Hydref 2007

Darparwyd yr arddangosfa hon gan Sophia Pari-Jones sydd wedi ymdrwytho yn

hanes y Felin, y melinwyr a’r perchnogion diddorol. Traddododd ddarlith ar y cefndir hynod hwn nos Fercher, Medi 27 2007.

Yr oedd un un o'r perchnogion yn ddigon cefnog i fedru talu am bleserau drudion un o’r meibion pan oedd yn fyfyriwr yn un o golegau Rhydychen a hynny efo arian rhent Melin Faesog, Bachwen a Choch-y-big. Yr oedd un arall yn gerddor a chôrfeistr.

Un o’u disgynyddion hwy a sefydlodd Gapel y Mormoniaid yn Ffestiniog ond yn wyneb y sen a’r gwawd a dderbynient penderfynasant deithio yr holl ffordd i Seion, sef Dinas y Llyn Halen yn Utah, Unol Daleithiau America ac ymsefydlu yno.  Yr oeddent ymysg y deng mil o gyffelyb fryd a adawodd Gymru am Utah yn y 1840au a’r 1850au, gan deithio ar longau hwyliau, yna ar gychod llai, ar wagenni a dynnid gan ychen, ac ar droed, wedi llwyr ddiffygio a rhai wedi eu claddu ar y ffordd o ganlyniad i’r geri marwol.   

Yr oedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys model hynod gywrain o efail y gof, melin ac odyn o waith Gwilym Jones Tudweiliog.

Ymwelwyr o Utah yn ymweld ag Arddangosfa Melin Faesog, Medi 18 2007.
Sophia Pari-Jones, Dr Ronald D Dennis a'i briod, Grace Marie Dennis




Noson yng nghwmni Llio Rhydderch, virtuoso’r delyn deires.

Nos Wener, Gorffennaf 6ed 2007
yng Nghapel Beuno. Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr. 




Arddangosfa’r Môr, Môr-ladron a Llongddrylliadau a hanes yr arfordir o’r Foryd i Edern.

Nos Fercher, Mai 23, am 7.30 agorir Arddangosfa’r Môr, Morwyr a Môr-ladron.

Ceir sgwrs gan Twm Elias ar Smyglars, sef enw’r llyfr a gyhoeddir yr un noson gan Wasg Carreg Gwalch gan y diweddar Dafydd Meirion ac yntau. Bydd tocynnau ar werth.  Bydd yr arddangosfa hon yn parhau trwy’r haf hyd at ddechrau Medi ac yn agored i’r cyhoedd ar brynhawniau Mercher a Sadwrn (2 – 4 o’r gloch) a thrwy drefniant ymlaen llaw ar adegau eraill.    Arddangosfa Melin Faesog fydd yn dilyn hyd at ddiwedd Tachwedd.

Llongddrylliadau:

Y Cyprian – collwyd 20 ger Edern

Lady Hincks 

Y Fortuna  -  daeth i’r lan ger Gurn Goch.   Collwyd 5 o’r criw.

Y Timbo   -        collwyd 9 ger Pontllyfni , yn cynnwys 5 aelod o fad achub Rhoscolyn.

 

Harbwr Trefor

  • Bu Trefor yn harbwr pwysig iawn.
  • Mae gennym gasgliad diddorol o luniau o’r Cei ar wahanol adegau a chynlluniau Cei Trefor.
  • A physgota.
  • Trychineb 1795

Smyglwyr

Peth cymharol ddiweddar ydi i lywodraeth Prydain ddibynnu ar Dreth Incwm i gael arian i redeg y gwahanol wledydd o’i mewn. Mor ddiweddar â 1842 cyflwynodd Syr Robert Peel fesur yn Senedd i drethu incwm o saith geiniog yn y bunt – i wneud iawn am golli’r elw a geid o’r dreth ar nwyddau o dramor.

Cyn hynny dibynnai ar y trethi ar nwyddau a fewnforid i redeg y wlad. Byddai’n rhaid i gapteiniaid llongau alw heibio i’r tolldai cyn dechrau dadlwytho eu llongau er mwyn i’r dreth briodol gael ei phennu ar y cargo.

Derbynnid tua £6 miliwn o arian tollau bob blwyddyn rhwng 1760 a 1813.  Ond roedd o leiaf £2 i £3 miliwn arall yn mynd “ar goll” oherwydd smyglo.  (o’r llyfr Smyglwyr sydd ar werth.)

  

Broc Môr

 

Sbigyn Datrys y Royal Charter

  • Peth i ddatrys cwlwm ar raff.    (gwahanol fathau o glymau ar long).  

Pysgota Mecryll a Gorad Beuno

– lle yr arferai Beuno bysgota.   (Mi welwch chi ffigurau’n dangos faint o dir mae’r môr wedi ei erydu o’r drydedd ganrif ar ddeg hyd heddiw).

 

Y Mabinogi

  • Yr hyn sydd yn rhyfeddol ydi fod cymaint o leoedd yn y cyffiniau hyn sydd yn deillio o’r cyfnod cyn-hanes.    Fe’u henwir yn y llenyddiaeth gynharaf un sydd gennym yn Gymraeg – yn Storïau’r Mabinogi.
  • Ond mae cyfeiriadau at yr ardal hon yn Englynion y Beddau hefyd - ein barddoniaeth gynharaf un yn Y Gymraeg. 

Y môr wedi erydu’r tir

 Gw. Y Borth – tai pysgotwyr ar lan-môr Clynnog – dan Ty’n-coed. 

Llun yn y 1880au.  Llun yn 1974   2007 – dim olion o gwbl.  Y môr wedi erydu’r tir.

Y cychod

Y modelau:    gwaith Percy Japheth o Drefor

Y cwch pren: gwaith Bert Japheth – ei efaill.





Arddangosfa Melin Faesog

Nos Fercher, Medi 12fed, am 7.30 agorir Arddangosfa Melin Faesog a cheir sgwrs gan Sophia Pari-Jones sydd wedi ymdrwytho yn hanes y felin a’i melinwyr a’i pherchnogion diddorol.  Bydd yr arddangosfa hon yn parhau hyd at Dachwedd 28 ac yn agored i’r cyhoedd ar brynhawniau Mercher a Sadwrn (2 – 4 o’r gloch) ac ar adegau eraill trwy drefniant ymlaen llaw i gymdeithasau ac ysgolion 
01286 660 853      ebost: hanes@uwchgwyrfai.com


Arddangosfa Hen Luniau o Ddyffryn Nantlle

Dewch draw i Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle ar y 29ain o Orffennaf 2006

10 - 5

Trefnir ar y cyd rhwng Cymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai






Arddangosfa Dyrnwyr

Darlith "Y Diwrnod Mawr yn Dyrnu" gan Twm Elias

Gorffennaf 8fed 2006 am 2 o'r gloch

Gwelir hefyd fodel o ddyrnwr yn gweithio â thrydan

Mynediad £3 (yn cynnwys paned)

 


 

Diwrnod Agor y Ganolfan ar y 25ain o Ebrill 2006

 

Ar y dde: Dafydd a Beryl (y ddau o Antur Nantlle), cefn Dewi Tomos ac Ifan Glyn.

 

Isod blaen: Lowri Evans, Pennarth; Hywel a Margaret Roberts; Y Parchedig Reuben Roberts ac Aelwen; Angharad

a Hedydd Tomos.    Yn y cefndir:  Miss E.J. Parry, Brysgyni, efo Ifan a Nan, Rhuddlan.

Eirian a John Ellis, Rhosisaf, a'r Cynghorydd Glyn Owen

Angharad Tomos

 

Carol Hughes a'r Parchedig Emlyn Richards

Esgob Bangor, Anthony Crockett

Wil Sam a Stuart Jones. Megan Lloyd Williams y tu cefn iddynt yn sgwrsio efo'r Athro Branwen Jarvis. Margaret W. Ellis, Trefor

sydd wrth ochr Megan Lloyd Williams.

 

Geraint Jones, Cadeirydd y Ganolfan.

O'r dde:  Dr Anne Elizabeth Williams, Diane Jones, J. Dilwyn Williams a Geraint Jones

 

Yr Athro Hywel Teifi Edwards yn darlithio

Gweno Mai Parry (hi a'i theulu sydd wedi gwarchod trysorau Eben Fardd, yn fedalau a phapurau a chadair ayb)

J. Dilwyn Williams, Is-gadeirydd y Ganolfan

Dawi Griffiths yn cyflwyno ei lyfr "Ar Anwadal Donnau'r Byd" i E.G. Millward, Golygydd Dyddiaduron Eben Fardd

Rhian Owen, Cefnartho, wrth yr organ.

Dawi Griffiths yn cyflwyno copi o'i lyfr i Tom Bowen Jones, awdur yr englyn enwog ar gofeb Eben Fardd


 

O'r chwith: Twm Elias a'r Parchedig W.J. Edwards (awdur y llyfr R. Dewi Williams); J. Dilwyn Williams a Hywel Roberts.

 

 

 

 

O'r chwith:  Morfudd Lloyd Jones a Miss E.J. Parry, Brysgyni.

Tecwyn Evans, Pennarth, Clynnog

Dawi Griffiths a Lowri Evans, Pennarth

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 





 

 

 

 

 
 
 
 

 

Diane Jones, Rheolwraig y Ganolfan.  Isod:  Myrddin Williams, Trysorydd y Ganolfan


image
image