LLYFRAU A CHRYNO-DDISGIAU AR WERTH...
John Preis
Crwydryn enwocaf Cymru
gan Geraint Jones
Pris: £10 (trwy'r post £11.50)
Anfonwch eich siec (taladwy i Utgorn Cymru) at: Utgorn Cymru, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Hen Dy Capel, Clynnog Fawr, Caernarfon, Gwynedd LL54 5BT (: 01286 660 583/655/546
E-bost : hanes.uwchgwyrfai@gmail.com
Pan gyhoeddodd rhai o’r papurau bro lythyr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn sôn am y bwriad i ysgrifennu llyfr am yr enwog grwydryn John Preis, gan wahodd hanesion amdano, aeth cloch y teleffon yn eiriasboeth, derbyniwyd llythyrau o bell ac agos a galwodd rhai heibio i’r swyddfa i adrodd eu profiadau.
Rhwng y rhain a’r llu hanesion lliwgar oedd gennym ni, drigolion ei hen gynefin - Capel Uchaf a Chlynnog yn fwyaf arbennig - ceir cip ar hen rebel hollol wreiddiol a hollol wahanol i bob bod dynol arall ym mhob dull a modd. Sut y llwyddodd i fyw ar ygwynt, cerdded a gwlychu’n domen ym mhob tywydd, cysgu mewn ysguboriau a beudái a theisi |
|
gwair, drewi fel buria, a chael byw i fod yn 91 oed, sydd yn
fwy na’r saith rhyfeddod.
Gallai fod yn un hynod anniolchgar a deilliodd trafferthion
lu o’i syniad ef o hwyl pan na châi ei ffordd ei hun. Maddeuid
iddo, er hynny, ac roedd ganddo ei bobl i ofalu amdano, yn
un teulu mawr,o Gaergybi i Lerpwl a’r Gororau a gwahanol
rannau o Gymru. A phan fyddai yn ei lawn hwyliau byddai’n
fodd i fyw i bawb o’i gydnabod.
Pwythwyd yr hanesion amdano yn hynod gelfydd gan
wir lenor a wir fwynhaodd y dasg hon gan fod y gwrthrych
wedi ei gyfareddu. A rhwng y cynnwys a’r mynegiant rhwydd
mae yma em o lyfr – un gwahanol. Mwynhewch ei ddarllen.
|
- Gwerthwyd y mil cyntaf o fewn pythefnos ym Mai 2014.
- Cafwyd ail argraffiad yn fuan.
- Mae'r TRYDYDD argraffiad yn awr ar gael ac yn parhau i werthu'n dda.
A N R H E G I O N P E R F F A I T H :
Trysorfa o gryno-ddisgiau difyr, da am ddim ond £5 yr un (cludiant yn ychwanegol).
BARGEN: 5 am £20 (cludiant yn ychwanegol)
Talp o hanes fel na allai neb ond Hywel Teifi Edwards ei gyflwyno - yn llawn afiaith a huotledd:
Y cythraul canu yn anterth ei nerth - a'i hwyl!
Llond bol o chwerthin yng nghwmni un o'n pennaf diddanwyr.
Dadansoddiad disglair Dafydd Glyn Jones o weledigaeth gwladgarwr y 19ganrif.
Criw'r Ganolfan yn cofio 150 mlynedd marw'r bardd ym 1863.
Arwyddocâd gwleidyddol Gwrthryfel Owain Glyndwr.
J. Dilwyn Williams yn adrodd hanes byr Stad y Weirglodd Fawr yng Ngwynedd o 1773 hyd ei thranc tua 1980.
Hanes difyr yr olew gwyrthiol gan Gwilym Evans, gor-^wyr i Morus Ifas.
Cip ar y bardd a'r ffermwr a'r hynafiaethydd hynod o Nanmor a hen fyd, hen fywyd a hen gymdeithas.
Cymeriad hynod a fu'n gyrru'r Moto Coch o 1922 hyd 1958. Adroddir ei hanes gydag afiaith gan Geraint Jones yn y fath fodd nes eich gorfodi
i roi'r gorau i bopeth ac eistedd i lawr i fwynhau pob eiliad ac o dro i dro i chwerthin yn ddilywodraeth.

Mae llyfr difyr Geraint Jones hefyd i'w gael yma am £5 (+ cludiant):

|

Stori afaelgar am gwmni cydweithredol - ei orchestion a'i fethiannau, ei
lawenydd a'i dristwch, ynghyd â balchder Cymry cyffredin i fod yn
berchen ar gwmni llwyddiannus, a chwmni sydd wedi cario'r dydd.
Un arall o lyfrau poblogaidd Geraint Jones a gyhoeddwyd yn Ebrill 2012,
a aeth yn fuan iawn allan o brint. Fe'i hailgyhoeddwyd erbyn hyn.
Cafodd Geraint Jones ei eni a'i fagu o fewn ychydig lathenni i safle
Cwmni'r Moto Coch ym mhentref Trefor, pentref chwarelyddol ym Mro'r
Eifl, ac adwaenai yn dda lawer o'r cymeriadau y sonnir amdanynt yn y
llyfr gwerthfawr hwn, yn weithwyr a roddodd oes gyfan o wasanaeth i'r
cwmni, yn ogystal â theithwyr. Mae'n llawn hiwmor iach ac mae yma
gyfoeth o luniau oes a fu a gwaith ymchwil trwyadl.
Mae'n hollol amlwg fod darllenwyr heb fod â chysylltiad â'r ardal yn
mwynhau ei ddarllen - nid yw'r cyfuniad o ysgrifennu ardderchog a
gallu'r awdur i adrodd straeon a chreu awyrgylch ynghyd â chyfoeth o
luniau, byth yn methu.
Cyhoeddwyr: Gwasg Carreg Gwalch
152 tudalen
Pris £5.00
Mae ar werth yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai. Codir tâl ychwanegol am
y cludiant.
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, Caernarfon, Gwynedd. LL53 5BT
|
Sgwrs gartrefol ac addysgiadol yr Athro hoffus ar hoff bwnc.
Ffraethineb a direidi rhai o'n prif lenorion gan siaradwr poblogaidd, cynnes a huawdl.
Cyflwyniad llawn angerdd - a llais Niclas ei hun i'w glywed.
Stori ryfeddol - a gwahanol - am fewnlifiad dros-dro ddaeth i weddnewid ardal yn y 1870au.
Stori'r pentref chwarelyddol diflanedig uwchlaw Penmachno.
Atgofion diddan y darlithydd dawnus a phoblogaidd o Fôn.
Anerchiad angerddol Llywydd Undeb yr Annibynwyr, Y Bala 1986.
Portreadau cynnes o bedwar heddychwr Cymreig amlwg.
Detholiad o ysgrifau dychanwr crafog Sêt y Gornel.
Portreadau cynnes gan siaradwr difyr.
Hanes hwyliog y Triawd enwog gynt gan un o'i aelodau.
Seiliedig ar brofiadau Arwel Hogia'r Wyddfa gyda thîm y Darans, Llanberis. Hynod ddifyr a hwyliog hyd yn oed i'r rhai nad oes ganddynt ddim diddordeb
mewn chwarae peli - am mai hanes cymeriadau cig a gwaed a geir yma, un a adroddir gan un sydd â dawn dweud.
Darlith ddifyr, ddadlennol. Cyhoeddwyd ym Mai 2012
Darlith ddyrchafol a chofiadwy sydd yn agoriad llygad. Mae'n cychwyn efo'r cyfoeth o enwau lleol cysylltiedig â Thywysogion Cymru sydd wedi goroesi yn Abergarthcelyn ac Arllechwedd; mae'n crynhoi hanes y Tywysogion ac yn arbennig hanes Garthcelyn - Llys y Tywysogion yn Abergwyngregyn - a Llan-faes dros y Fenai.
Casgliad hynod o gantorion lleol y cadwyd recordiadau ohonynt gan gyfeillion a theuluoedd ar wahanol achlysuron.
Darlith feistrolgar gan siaradwr huawdl a ymdrwythodd yn y pwnc.
Portread o Eben Fardd ynghyd â rhai o'i gerddi.
Anerchiad gwladgarol ac angerddod yr athronydd enwog.
Gweler manylion am ragor o gryno ddisgiau isod - yn dilyn "Llyfrau".
Llyfrau:
Teulu Tan-y-clawdd
Dyddiad cyhoeddi: 27ain o Hydref 2010
Pris £4 yn y Ganolfan neu £5 trwy'r post.
Hanes teulu o dyddynwyr ffraeth, dirodres, hen-ffasiwn a oedd, hyd yn gymharol ddiweddar, fel yr eithin yn aur ar hen gloddiau Capel Uchaf, Clynnog.
Darlun byw o William Pritchard yn gweini ar ffermydd yr ardal a'i briod, Martha Pritchard, yn adrodd ei hanes yn cychwyn yn forwyn bach cyn bod yn ddeuddeg oed. Roedd eu merch Nan yn adnabyddus i bawb yn y cyffiniau ac mae ei dywediadau doniol a'i sylwadau gwreiddiol a bachog yn dal yn fyw ar gof yr ardalwyr.
44 tudalen yn cynnwys 28 o luniau o safon uchel. Tynnwyd y llun sydd ar y clawr gan Richard Caradog Jones, Llanelli, yn 1963. |
 |
Mary King Sarah |
|
gan Aelwen Roberts
Dyddiad cyhoeddi: 29ain o Fedi 2010
Pris £5 yn Y Ganolfan neu £6 trwy'r post.
Camp fawr Mary King Sarah, y gantores enwog o Dal-y-sarn, oedd ennill tair gwobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906. Daeth yn seren. Ymhen ychydig flynyddoedd wedyn derbyniodd wahoddiad Côr y Moelwyn i fod yn unawdydd iddynt ar eu hymweliad ag America. Y canlyniad fu iddi gael y fath groeso yno fel na ddychwelodd adref efo’r Côr. Fe'i dilynwyd i'r wlad bell gan ei rhieni a’i brawd a’i deulu yntau a chan aelodau eraill yn ddiweddarach.
Aros am dair wythnos oedd bwriad ei thaid yntau pan ddaeth i hyfforddi gweithwyr i yrru peiriant stêm yn chwareli Dyffryn Nantlle. Ni ddychwelodd i’w gartref yng Nghernyw byth wedyn ar ôl cyrraedd Tal-y-sarn a chyfrannodd ef a’i deulu yn helaeth i’r gymdeithas leol a dod i siarad Cymraeg yn rhugl. Mae ei hanes ef a’i ddisgynyddion cerddorol yn werth ei ddarllen ac mae’r ysgrifennu yn raenus. Mae ynddo 30 o luniau a 78 tudalen.
|
 |
|
Ellyll Hyll a Ballu
Chwedlau'r Ardal i Blant gan Mary Hughes:
Cipio Cyfoeth (chwedl Cilmyn Droed-ddu)
Tir Tylwyth Teg (chwedl Llyn y Dywarchen)
Gwyrthiau Beuno (chwedlau Beuno)
Dim ond un ael...(chwedl Aelhaearn)
Lluniau gan Jasmine Hughes
12 llun lliw a 7 du a gwyn
52 tudalen maint A5
Cysodwyd gan Ifor Williams
Addas i blant o bob oed ac yn arbennig ar gyfer rhai 7 - 11.
£5 yn y Ganolfan neu £6 trwy'r post |
|
Teulu’r Post, Llanwnda |
|
gan Aelwen Roberts
Pan gaewyd Swyddfa’r Post Llanwnda ddiwedd Tachwedd 2008
daeth i ben fywoliaeth pedwaredd genhedlaeth y teulu presennol.
Costrelir yr hanes yn ddifyr yn y llyfryn hwn gan Aelwen Roberts.
Mae’n cynnwys nifer o luniau ac fe’i cysodwyd gan Ifor Williams,
Llanfaglan. Cyhoeddwyd ar y chweched o Ragfyr 2008.
Pris £4 yn y Ganolfan neu £5 trwy'r post. 40 tudalen
|
|
Llyfr Lliwio |
|
|
gan Dafydd Jones
12 llun lleol i’w lliwio
er enghraifft: cromlech Bachwen /
Eglwys Beuno Sant / gwerthu llefrith ym
Mhen-y-groes / Ysgol Pen-y-groes.
Maint A4 Llun lliw ar y clawr
Cysodwyd gan Ifor Williams
£2 yn y Ganolfan. £3 trwy'r post
|

|
Gwr Hynod Uwchlaw'rffynnon |
|
gan Geraint Jones
Roedd oes Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, Llanaelhaearn, sir Gaernarfon, yn rhychwantu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ei hyd, fwy neu lai. Dyma borthmon, ffermwr, bardd, pregethwr, darlithydd, achyddwr ac areithiwr dirwest a ddaeth, yn dilyn ei hanner canfed pen-blwydd, yn arlunydd gyda'i stiwdio ei hun yn Uwchlaw'rffynnon. Yn y llyfr hwn ceir hanes bywyd a gwaith Robert Hughes, ynghyd â thros drigain o'i luniau mewn lliw a holl achau teulu lluosog Uwchlaw'rffynnon.
"Mae ei hanes yn ddiddorol dros ben ac mae'r modd y cyflwynir yr hanes hwnnw yn y gyfrol hon yn ddifyr odiaeth.......Rydym ni, ddarllenwyr y Ffynnon, yn gyfarwydd â'r arddull hefyd. Nid yn aml y gwelwch chwi Gymraeg mor gyhyrog â hyn 'na mewn llyfr newydd y dyddiau hyn.... Mae'r argraffu yn wych ryfeddol...." (Dyfed Evans yn Y Ffynnon, Papur Bro Eifionydd, Tachwedd 2008)
Cyhoeddwyr: Gwasg Carreg Gwalch Pris £9.50 70 tudalen |

|
|
Melin Faesog |
|
|
gan Sophia Pari-Jones
Hanes y melinwyr o 1682 a’u cysylltiadau â Phlas-y-Nant, Betws Garmon a stad Baron Hill, Biwmares. Yr oedd rhai o’r disgynyddion ymhlith yr arloeswyr cynnar hynny a deithiodd ar longau hwyliau, mewn agerfadau, ar drenau ac ar droed i gyrraedd y Seion newydd yn Ninas y Llyn Halen, UDA, i gael rhyddid i addoli.
44 tudalen. Lluniau. Cyhoeddwyd yn 2007. £4 £5 trwy'r post |

|
Trefor
|
|
gan Geraint Jones a Dafydd Williams.
Canmlwyddiant a hanner sefydlu pentref newydd wrth droed yr Eifl yn Arfon ar y 12fed o Ebrill, 1856, a hanes cychwyn y Gwaith Mawr.
Ceir yma 38 o hen luniau a thri map.
Cyhoeddwyd ar y 12fed o Ebrill, 2006.
Pris £5 yn Y Ganolfan neu £6 trwy’r post.
79 tudalen |
Ar Anwadal Donnau’r Byd
|
|
gan Dawi Griffiths
Yn y llyfryn hwn ceir tair pennod hwylus yn trafod teulu Eben Fardd, ei weithiau gorau, a’r dyn ei hun fel y daw i’r golwg yn ei ddyddiaduron. Ceir hefyd amrywiaeth dda o luniau yn gysylltiedig â’r Prifardd a’i ardal.
Cyhoeddwyd yn Ebrill 2006.Pris £4 yn y Ganolfan neu £5 trwy’r post.
34 tudalen |
Hen Ysgol Eben Fardd – Ysgol yr ail gynnig
|
|
gan Emlyn Richards
Darlith a draddodwyd yng Nghapel Ebeneser, Clynnog, ar achlysur dathlu llwyddiant cam cyntaf cais Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am gymorth ariannol i ddiogelu Hen Ysgol Eben Fardd, a ddatblygodd yn Ysgol Ragbaratoawl y Methodistiaid cyn symud i’r Rhyl, sef Coleg Clwyd, yn 1929. Yr oedd oddeutu 300 yn bresennol.
Pris £3 yn y Ganolfan neu £4 trwy’r post. 28 tudalen |
Cerdded y ‘Clawdd Terfyn’ - Cofiant R. Dewi Williams
|
|
gan W.J. Edwards
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Conwy a’r Cyffiniau yn Llanrwst yn 1989 gofynnwyd am ‘Fyr Gofiant i R Dewi Williams ynghyd ag Astudiaeth o’i Waith fel Llenor’. Ffrwyth y gystadleuaeth honno yw’r gyfrol hon. Bu R. Dewi Williams yn Brifathro Ysgol Ragbaratoawl Clynnog o 1917 hyd 1929. Yr oedd yn llenor dawnus ac ystyrir ei gyfrol o storïau byrion ‘Clawdd Terfyn a Straeon eraill’ yn glasur.
Pris £4.95 yn y Ganolfan neu £6 trwy’r post.
139 tudalen |
Cryno-ddisgiau:
CANEUON MAM
Meredydd Evans |
|
Yn blentyn ar yr aelwyd gartref yn Nhanygrisiau,
bro Ffestiniog, y daeth Meredydd Evans yn
ymwybodol o'r golud mawr o ganeuon gwerin sydd
gennym fel Cymry. Arferai ei fam ganu llawer iawn
ohonynt gan drwytho'i mab yn y diwylliant cyfoethog
hwn. Yn ei dro daeth yntau'n ganwr o fri ac yn
arbenigwr, nid yn unig ar y grefft o ganu'r hen
ganeuon, ond hefyd ar olrhain eu hanes a'u hystyr.
Daeth caneuon y fam yn bleser oes i'r mab
yntau. Gyda'i briod, Phyllis, hithau'n gantores
adnabyddus, bu cyfraniad Meredydd Evans
i'n traddodiad cerddorol yn enfawr, yn ddifesur.
Cyhoeddir y ddisg hon, sydd yn drafodaeth
oleuedig ar yr hen ganeuon, i ddathlu pen-
blwydd Meredydd Evans yn 90 oed yn Rhagfyr
2009.
Trac 1: Rhai o ganeuon Mam
Trac 2: Cof gwlad a chywirdeb geiriau
Trac 3: Olrhain hanes caneuon "y canu caeth
newydd"
Trac 4: Titrwm-tatrwm / Cân Sobri / Beth yw'r
haf i mi?
Pris: £5 (£6 trwy'r post)
Cynhyrchydd: Geraint Jones
|
 |
COFIO LLWYD O'R BRYN
Geraint Lloyd Owen |
|
Roedd Bob Lloyd (Llwyd o'r Bryn) (1888-1961) yn wladwr
hunanddiwylliedig, ac yn ddiddadl yn un o brif hoelion wyth ein
diwylliant traddodiadol ac eisteddfodol. Hwn oedd gwron Y Pethe,
yr elfennau anniffiniadwy a chyfrin hynny sy'n gynhenid ac
anhepgorol i enaid ac iechyd y genedl - mewn gair, yr hyn a'n
gwna'n genedl. Yma ceir atgofion diddan a huawdl Geraint Lloyd
Owen, cymydog, cyfaill, edmygwr ac un o'r "hen blant" y bu
dylanwad ei arwr arno'n arhosol. Erys y cof amdano, nid yn unig
ym Mhenllyn a Meirionnydd, ond drwy Gymru benbaladr, a'i neges
yn dal mor berthnasol ag erioed -
Yma 'rwyf, ond, blant fy mro,
Daliwch heb laesu dwylo.
1. Y Filltir Sgwâr a dechrau'r daith
2. Cymydog, cwmniwr, cyfaill, cerddwr
3. Gwron Y Pethe, eisteddfodwr
4. Y llenor a'r llythyrwr
5. "Rhowch dynerwch dan eira."
Pris: £5 (£6 trwy'r post)
Cynhyrchydd: Geraint Jones |
|
CANTORION BRO'R EIFL |
|
1. William Jones (Wil Parsal)
2. Cor Glannau Erch (Tal Griffith)
3. Bobi Roberts
4. Jane Jones (Llinos y Ceiri)
5. Thomas Williams (Llwynfab)
6. Arthur Jones 7. George Baum
8. Gwen Owen 9. Emlyn Jones
10. Mathias Williams
11. Hugh Evan Roberts (Tenorydd yr Eifl)
12. Tal Griffith (Alaw) 13. Elwyn Jones
14. Lottie Thomas 15. Dafydd Morris Jones
16. William R. Williams (Llwyn)
17. Ithel Parry 18. Evan R. Thomas
19. Cor Glannau Erch (Tal Griffith) |

|
Peidied neb â disgwyl safon recordio aruchel ar y ddisg hon. Yn wir, mae'n syndod bod ei
chynnwys ar gael bellach - y cyfan, mwy neu lai wedi ei recordio ddegawdau yn ol ar
beiriannau cyntefig a than amodau tra chyntefig. Fodd bynnag, mae'r cantorion o'r radd
flaenaf a nifer wedi eu recordio pan oeddent ymhell dros oed yr addewid. Dyma gyfnod
disglair o ogoniant a bylodd - lleisiau'r gorffennol ar gadw i genedl sy'n fwyfwy dibris o'i
hetifeddiaeth deg.
Cynhyrchydd: Geraint Jones
EMLYN A HARRI
Byd y Baledi a Byd y Llofft Stabal |
|
Traethwr: Emlyn Richards
Canwr: Harri Richards
Cyflwyniad i fyd y faled Emlyn Richards
Baled y Byrddau Gruffudd Parry
Pont newydd y Sarn Baled y Mewnlifiad
Baled y Lleuen Gruffudd Parry
Baled Porth Neigwl Evan Jones (Ianto Soch)
Pan gyll y call yng Ngwynedd Glyn Roberts
Byd y llofft stabal Emlyn Richards
Y ddau frawd dawnus o Sarn Mellteyrn a geir yma. Mae Harri Richards yn ganwr baledi sy'n enillydd cenedlaethol yn gyson,ac Emlyn Richards yn un o bennaf pregethwyr y pulpud Cymreig. |

|
Cynhyrchwyr: Geraint Jones a Morgan Jones
CYMRU A'I HARWYR
Darlith 'Utgorn Cymru' 2008 |
|
Mae darlith gan yr Athro Hywel Teifi Edwards yn ddigwyddiad o bwys yng nghalendr diwylliannol y Cymry, yn ogystal a bod yn ddathliad o'n Cymreictod. Enillir calonnau ei wrandawyr gan dreiddgarwch ei sylwadau, ei huodledd ysgubol, a chynhesrwydd ei gariad at ei genedl, a'i hiaith a'i hanes. Traddodwyd y ddarlith hon yng nghapel Ebeneser, Clynnog Fawr yn Arfon ac fe gafodd deugant o wrandawyr brwd fodd i fyw ar noson fendigedig o wanwyn.
Cynhyrchwyr: Geraint Jones a Morgan Jones |

|
Cyfres Cyflwyno Cerddi (1)
MYRDDIN AP DAFYDD |
|
Nanhyfer Celwydd Gwyn
Myfyr, Bryn Dim ond geiriau ydi iaith
Gorymdaith Y dolffin a'r tiwna
Plas Gwilym Plas
Cywion gwenoliaid Yr Ifanc Hen
Ailagor y Fic Golau William Selwyn
Lynx mewn sw Yng nghwmni artist
Dwy ffordd Englynion
Dau lygad ar un wlad Ifor Wyn Go'
Ein neuadd Ym mynwent eglwys
Ffeil fawr ddu Mike Ruddock Carnguwch
Gwenllian Huw Sel
Dilyn dy frawd Hiraeth Wil Sam
Does dim yn digwydd yma Dwy fam
Preservation Hall Tyfu'n un
Plant Owain Hen fachlud a gwawr
Ysgol Pentreuchaf newydd
Heth Chwefror |

|
Brodor o Lanrwst yw Myrddin ap Dafydd a ddysgodd gynganeddu yng nghwmni beirdd gwlad Dyffryn Conwy, ond mae bellach yn byw yn Llwyndyrys. Enillodd gadeiriau Eisteddfodau Cwm Rhymni 1990 a Sir Benfro 2002. Ef yw sefydlydd a pherchennog Gwasg Carreg Gwalch ac mae'n gyd-berchennog â'i wraig Llio ar Oriel Tonnau ym Mhwllheli. Myrddin oedd Bardd Plant cyntaf Cymru yn y flwyddyn 2000.
Cynhyrchydd: Geraint Jones |
CHWE SGWRS ar Bob Owen, Croesor
gan Dyfed Evans
|
|
Traddodwyd y sgyrsiau hyn ar Utgorn Cymru ac oherwydd eu poblogrwydd dyma’r chwech gyda’i gilydd.
Cynnwys:
Robin Bach, Twll Wenci
Ffarm a Chwarel
Helyntion etholiadol, hel llyfrau a hwyl y mis mêl
Anturiaethau llyfrbryfol ac anrhydedd Prifysgol
Dosbarth nos ac atgofion am Garneddog
America a Phalas Bycingham
£5 (£6 trwy’r post) |
DWY BREGETH
gan Y Parchedig Emlyn Richards |
|
Brodor o Sarn Meillteyrn, gwlad Ll?n, sy’n bregethwr, awdur, darlithydd a phrotestiwr adnabyddus. Cyn iddo ymddeol yn ddiweddar, bu’n weinidog yr efengyl gyda’r Presbyteriaid yng Nghemais, Môn am yn agos i ddeugain mlynedd.
Cynnwys: Pregeth 1: Symbal aflafar
I Corinthiaid 13.1: “Os llefaraf â thafodau dynion ac angylion, a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar.”
Pregeth 2: Adref, adref…
Luc 15.2: “Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid." £5 (£6 trwy’r post) |
DAU GYMERIAD HYNOD
O DREF PWLLHELI
gan Y Parchedig Meirion Lloyd Davies |
|
Brodor o Ddinbych a fu’n weinidog poblogaidd gyda’r Presbyteriaid yn Llanberis am 5 mlynedd ac yna ym Mhwllheli am 35 mlynedd. Mae bellach wedi ymddeol ac yn byw ym Mhenrhos, gwlad Ll?n.
Cynnwys:
Hanes Dafydd Parry Ocsiwnïar a Morgan Griffith,
Penmount. £5 (£6 trwy’r post) |
Robert Hughes Uwchlaw’rffynnon
(1811-1892) |
|
gan Geraint Jones
Profiad i’w drysori oedd bod yn bresennol yn y ddarlith hon ar Fedi 20fed 2006. Ar y muriau yr oedd darluniau Robert Hughes i’w gweld gyda’i gilydd am y tro cyntaf ac er ei bod yn pistyllio bwrw yr oedd yr Ysgoldy dan ei sang a nifer yn sefyll. Ond rhwng y ddarlith ardderchog a’r awyrgylch arbennig yr oedd pawb wedi
eu mwynhau eu hunain.
Tri yn unig o luniau Robert Hughes a geir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr oedd y gweddill wedi eu diogelu gan wahanol aelodau o’r teulu ac mewn rhai Capeli. Portreadau oedd arbenigrwydd Robert Hughes – pregethwyr enwog, blaenoriaid, aelodau o’i deulu a’r landlord, Arglwydd Newborough. Cafwyd rhai golygfeydd ganddo, yn cynnwys New Inn, Clynnog, cyn agor y ffordd newydd yn 1862.
Yn y ddarlith ceir hanes Robert Hughes yn dilyn y porthmyn i Lundain pan oedd yn 19 oed. Mae ei hanes yn y ddinas honno fel clywed am Y Gorllewin Gwyllt.
BARGEN AM £5 yn y Ganolfan. £6 trwy’r post. |
Y tân anfarwol yn Llŷn
(1936)
|
|
gan Geraint Jones
(Traddodwyd gyntaf ym Motwnnog 2 Tachwedd 2006)
Geraint Jones yn adrodd yn ei ddull dihafal ei hun hanes Saunders Lewis, D.J. Williams a’r Parchedig Lewis Valentine yn llosgi yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn 1936 wedi i bob gwrthwynebiad arall fethu. Y corff cyntaf i leisio barn yn erbyn bwriad y llywodraeth i sefydlu’r ysgol fomio oedd Cymanfa Bedyddwyr Arfon yn Nefyn. Derbyniodd y Prifweinidog Stanley Baldwyn ddeiseb yn cynnwys hanner miliwn o enwau ond ni chydnabu ei derbyn.
Pris £5 neu £6 trwy’r post. |
|